Is-ganghellor i roi'r gorau i'w swydd
- Cyhoeddwyd

Mae is-ganghellor Prifysgol Cymru Casnewydd i roi'r gorau i'w swydd oherwydd rhesymau personol.
Yn ddiweddar dywedodd Dr Peter Noyes fod yna gynllwyn ar droed i orfodi'r brifysgol i uno gyda sefydliadau eraill yn y de ddwyrain.
"Rwy'n drist o orfod gadael sefydliad rwy'n ei garu, ond mae'n rhaid i mi roi fy nheulu yn gyntaf."
Bun aelod o staff y brifysgol am 16 o flynyddoedd, ac yn is-ganghellor am chwe blynedd.
Bydd yn rhoi'r gorau yw swydd yng Ngorffennaf.
Yn y gorffennol mae wedi beirniadu awydd llywodraeth Cymru i greu prifysgol enfawr drwy uno Casnewydd gyda phrifysgol Morgannwg a phrifysgol Fetropolitan Caerdydd.
Roedd Dr Noyes o'r farn mai'r ffordd gorau ymlaen fyddai creu prifysgol newydd sbon ar gyfer y de ddwyrain yn hytrach na uno sefydliadau presennol.
Ym mis Ebrill, clywodd prifysgol Casnewydd y byddai yna ostyngiad o 300 yn nifer y myfyrwyr yn y dyfodol. Roedd hynny yn ganlyniad i ostyngiad yn yr arian maent yn ei dderbyn.
Ar y pryd dywedodd Dr Noyes ei fod o'r farn fod hon yn ymdrech i geisio gorfodi'r brifysgol i uno gyda sefydliadau eraill.