Marsh i Forgannwg

Mae'r batiwr Shaun Marsh o Awstralia i ymuno â Morgannwg er mwyn helpu'r tîm yng nghystadleuaeth 20 pelawd.

Mae'n gyfaill i gapten Morgannwg Jim Allenby.

Marsh fydd ail chwaraewr tramor Morgannwg, gan ymuno a Marus North, hefyd o Awstralia.

Credir y bydd Marsh, sy'n 28, yn chwarae ei gem gyntaf yn erbyn Unicorns ar Fehefin 12.