O'Sullivan 15-9 Stevens

Ronnie O'Sullivan Image copyright Getty Images

Fe wnaeth Ronnie O'Sullivan gipio'r tair ffrâm olaf yn sesiwn bore Sadwrn i sicrhau mantais o 15-9 dros y Cymro Matthew Stevens ym Mhencampwriaeth Snwcer y Byd.

Roedd Stevens ar ei hôl hi 11-5 ar ddechrau'r sesiwn ond llwyddodd i ennill dwy ffrâm cynta'r dydd.

Tarodd O'Sullivan yn ôl gyda thoriad o 68, ond gwrthododd Stevens ag ildio gan wneud toriad o 66 yn y ffrâm nesa.

Ond mae'r ffaith i O'Sullivan gipio'r tair ffrâm olaf yn golygu ei fod o fewn dwy fuddugoliaeth i gyrraedd y rownd derfynol.