Derwyddon Cefn 0-2 Seintiau Newydd

Cwpan Cymru Image copyright Huw Evans picture agency

Mae'r Seintiau Newydd wedi ennill y dwbl ar ôl curo Derwyddon Cefn 2-0 yn ffeinal Cwpan Cymru yn Stadiwm Nantporth, Bangor.

Daeth y ddwy gol mewn cyfnod o ddau funud, Greg Draper sgoriodd gynta ar ôl 13 munud gyda Alex Darlington yn ychwanegu'r ail.

Bu'n rhaid i golgeidwad y derwyddon fod ar ei orau i rwystro ergyd Fraughan o 25 llath, ac hyd yn oed wedyn roedd yn rhaid dibynu ar y postyn i gadw'r bel allan.

Yn ddiweddarach fe wnaeth Mullock arbediad gwych i rwystro'rr eilydd Tom Roberts rhag sgorio.

Hwn oedd y tro cynta ers 108 o flynyddoedd i'r Derwyddon gyrraedd y ffeinal.

Ond gan bod y Seintiau wedi ennill yr Uwchgynghrair - ac felly'n mynd i Gynghrair y Pencampwyr y tymor nesaf - Derwyddon Cefn fydd yn cynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa.

Seintiau Newydd: Paul Harrison, Simon Spender, Chris Marriott, Phil Baker, Steve Evans, Greg Draper (Nicky Ward 77'), Christian Seargeant, Craig Jones, Alex Darlington, Aeron Edwards (Scott Ruscoe 84'), Ryan Fraughan (Tom Roberts 68')

Derwyddon Cefn: Chris Mullock, Mark Harris, Joe Price, Adam Hesp, Tom McElmeel, George Hughes, Marc Griffiths, Kieron Quinn (Jack Edwards 88'), Tony Cann, Andrew Swarbrick(Paul Speed 90'+1), Warren Duckett

Torf: 731