BBC Cymru Fyw

O'Sullivan 17-10 Stevens

Published
image copyrightGetty Images
Mae Ronnie O'Sullivan drwodd i ffeinal Pencampwriaeth Snwcer y Byd ar ol curo'r Cymro Matthew Stevens 17-10
Hwn fydd pedwerydd ymddangosiad O'Sullivan yn y rownd derfynol.
Ar ddechrau'r sesiwn olaf roedd Stevens ar ei hôl hi 15-9.
Er iddo gael toriad o 100 i roi ychydig o obaith, fe darodd O'Sullivan yn ôl yn y ffrâm nesa gyda thoriad o 130.
Bellach mae yna bron i ddegawd ers i Stevens guro O'Sullivan.
Bydd O'Sullivan yn wynebu Ali Carter yn y ffeinal ar ôl i Carter guro Stephen Maguire 17-10.