Gêm gyfartal i Forgannwg

  • Cyhoeddwyd
Logo MorgannwgFfynhonnell y llun, Other

Llwyddodd Morgannwg i sicrhau gêm gyfartal yn erbyn Essex yn y gêm bencampwriaeth yn Stadiwm Swalec, Caerdydd.

Ar ddiwrnod olaf y chwarae ar ddydd Sadwrn fe gaeoodd Essex eu hail fatiad ar 166-9, gyda Huw Waters yn cymryd 5-47.

Roedd hynny'n gosod nod o 239 i Forgannwg ennill y gêm.

Ar un adeg roedd Morgannwg yn 37-4 a 79-5, cyn cyrraedd sgôr terfynol o 99-5, gyda Mark Wallace yn cyfranu 26 heb fod allan.

Pencampwriaeth y Siroedd

Morgannwg v. Essex - Stadiwm Swalec, Caerdydd:-

Essex(batiad cyntaf) - 259 am 9 wiced

Morgannwg 187- i gyd allan

Essex (ail fatiad) - 166-9

Morgannwg 99 -5

Pwyntiau: Morgannwg 6, Essex 8

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol