Apêl o'r newydd am ddyn ar goll

Trevor Elias Image copyright Other
Image caption Mae Trevor Elias wedi bod ar goll ers Ebrill 7

Mae apêl o'r newydd wedi ei wneud i geisio gwybodaeth am bensiynwr sydd wedi bod ar goll am fis.

Does neb wedi gweld Trevor Elias, 77 oed, Abertridwr, sir Caerffili ers Ebrill 7.

Mae trigolion lleol wedi dosbarthu dros 1,000 o daflenni a phosteri mewn ymdrech i ddod o hyd iddo.

Fis diwethaf fe wnaeth dos 400 o bobl leol fynychu gwylnos.

Mae'r pensiynwr yn 6 troedfedd o daldra gyda gwallt brown byr.

Fel rheol mae'n gwisgo sbectol, ond doedd y rhain ddim arno pan welwyd ddiwethaf.

Poeni

Dywedodd yr arolygydd Paul Staniforth o Heddlu Gwent: "Rydym yn parhau i chwilio am Trevor;

"Rydym yn poeni am ei les oherwydd ei oedran a'r cyfnod mae wedi bod ar goll."

"Mae swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r gymuned leol er mwyn dod o hyd i unrhyw wybodaeth a all helpu ddod o hyd i Mr Elias.

"Dylai unrhyw un sy'n gweld Mr Elias neu sydd â gwybodaeth amdano gysylltu â'r heddlu ar 101."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.