Thomas yn gorffen yn ail

Taylor Phinney Image copyright AFP
Image caption Taylor Phinney

Fe orffennodd Geraint Thomas o dîm Sky yn yr ail safle yn y Giro d'Italia.

Roedd Thomas naw eiliad y tu ôl i i'r Americanwr Taylor Phinney yn y ras yn erbyn y cloc yn Herning, Denmarc.

Gorffennodd Thomas mewn amser o 10 munud 35 eiliad.

Alex Rasmussen o Ddenmarc oedd yn drydydd.

Mae'r ras yn parhau yn Nenmarc ddydd Sul a dydd Llun.

Credir mai'r gwibwyr fydd yn elwa oherwydd natur fflat y cymalau cyntaf.

Bydd y ras yn symud i'r Eidal ddydd Mercher.

Dywedodd Thomas ei fod yn hapus gyda'i berfformiad.

"Fe wnes i fesur pethau'n eithaf da. Fe wnes i drio parhau a'r cyflymdra ar y corneli, ond mae'n debyg y dylwn wedi mynd yn gynt ar un neu ddau o'r corneli.

"Ar ôl dweud hynny nes i ond colli o naw eiliad a gallai ddim rhoi'r bai i gyda ar y corneli.

"Mae yna 20 cymal ar ôl - byddai yna ar gyfer y cymalau gwibio ar gyfer Cav (Mark Cavendish) ac yna gobeithio gorffen y ras yn dda - a bydd hynny'n beth da ar gyfer y Gemau Olympaidd."

1. Taylor Phinney (UD, BMC Racing) 10 munud, 26 eiliad

2. Geraint Thomas (Prydain Fawr, Team Sky) a 9 eiliad

3. Alex Rasmussen (Den, Garmin-Barracuda) a 13 eiliad

4. Manuele Boaro (Eidal, Saxo-Bank) a 15 eiliad

5. Gustav Erik Larsson (Swe, Vacansoleil) a 22 eiliad

5. Ramunas Navardauskas (Lit, Garmin-Barracuda) a 22eiliad