Bad achub yn chwilio am gartref
- Cyhoeddwyd

Mae'r RNLI i edrych unwaith eto ar ddod o hyd i orsaf newydd yn Llandudno.
Cyn hir bydd y dref yn cael bad achub newydd ac mae'r orsaf bresennol yn rhy fach i'w chartrefu.
Hefyd mae'r orsaf mewn safle lletchwith gan ei fod yng nghanol y dref.
Yn wreiddiol cafodd y safle ei ddewis er mwyn caniatáu i'r bad allu cyrraedd dau draeth y dref.
Mae'n rhaid tywys y bad 700 metr cyn gallu mynd i'r môr.
Yn ôl yr RNLI hwn yw'r unig dref yn y DU lle mae bad yn cael ei gludo drwy'r strydoedd.
Mae yna orsaf wedi bod yn y dref ers 1861.
"Mae'n cymryd rhwng 12-15 munud i gludo'r bad, ond mae hynny hefyd yn dibynnu ar nifer o ffactorau gan gynnwys traffig," meddai llefarydd ar ran yr RNLI.
Dywed yr RNLI fod ymddiriedolwyr wedi cytuno i roi bad newydd i'r dref.
Ond mae'r bad yn fwy na'r un bresennol, a does dim modd ehangu'r orsaf.
Mae disgwyl y bydd y bad newydd, dosbarth Shannon, ar gael i'r dref erbyn diwedd 2015.
Ond does dim disgwyl ateb buan i'r broblem gan fod sawl cais i sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer gorsaf newydd wedi methu ar hyd y blynyddoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Gorffennaf 2011