Dyn 96 oed yn annog mwy i ddawnsio

  • Cyhoeddwyd
Edward Clarke at his Zumba class in WrexhamFfynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Bu Mr Clarke yn hoff o ddawnsio ers yn 13 oed

Pan ddechreuodd Edward Clarke ddawnsio yn 13 oed, y Charleston oedd y ddawns fwyaf poblogaidd.

Ac yntau bellach yn 96 oed, mae wrthi'n meistroli dawns wahanol iawn......Zumba.

Mr Clarke yw'r aelod hynaf, a'r unig ddyn, yn nosbarth Zumba i bobl dros 50 oed sy'n cyfarfod yn wythnosol yn Wrecsam.

Mae'n credu y dylai mwy o ddynion ymuno â dosbarthiadau o'r fath, gan ddweud: "Mae amser yn brin, ac fe fyddai peidio â'i fwynhau yn drosedd."

Yn bobydd wedi ymddeol, cafodd Mr Clarke ei eni yn Wrecsam yn 1915.

Bu'n dawnsio ers yn 13 oed, a dyna sut y cyfarfu gyda'i ddiweddar wraig Dorothy.

"Waltz araf oedd y ddawns," meddai.

"Wrth i mi ei gadael, fe ddaliodd ei gafael yn fy llaw, a bu'r ddau ohonom gyda'n gilydd am 65 mlynedd mewn seithfed nef.

"Bryd hynny roedd pawb yn mynd i ddawnsio. Rwy'n cofio'r Charleston, a chyn hynny'r Cakewalk ac yna'r waltz araf a'r tango hyd yn oed."

Ffynhonnell y llun, (C) British Broadcasting Corporation
Disgrifiad o’r llun,
Dywed Edward Clarke ei fod yn cael pleser mawr o ddawnsio Zumba

Ond bellach mae Mr Clarke wedi mwynhau'r Zumba ers tua thair blynedd.

Mae Zumba yn gynllun ffitrwydd sydd wedi ei ysbrydoli gan ddawnsio America-Ladin, ac mae bellach yn boblogaidd drwy'r byd.

Fel unig aelod gwrywaidd y dosbarth dros-50 oed, mae'n dweud y dylai mwy o ddynion roi cynnig arno.

"Efallai bod rhywbeth yn y genynnau i ni'r Cymry - diffyg hyder.

"Efallai eu bod yn credu ei fod yn beth merchetaidd, ond does dim llawer yn dod i geisio gwneud Zumba."

Mae'n mynnu bod Zumba yn rhoi pleser mawr iddo ac yn caniatáu i rywun symud mewn ffordd naturiol wrth ddefnyddio cyhyrau fyddai rhywun ddim fel arfer yn eu defnyddio.

Dywedodd hyfforddwr y dosbarth, Julie Kirk: "Mae Edward yn ysbrydoliaeth nid yn unig i weddill y dosbarth ond i mi hefyd.

"Rwyf wrth fy modd pan mae'n dod i'r dosbarth oherwydd mae'n profi nad ydych chi fyth yn rhy hen i ddechrau dawnsio ac edrych ar ôl eich corff."