Airbus 0-1 Aberystwyth

Image copyright Not Specified

Airbus UK Brychdyn 0-1 Aberystwyth

Aberystwyth fydd y tîm o'r chwech isaf i fynd i rownd gynderfynol gemau ail gyfle Cynghrair Europa yn dilyn sioc brynhawn Llun.

Yn rownd gyntaf y gemau ail gyfle, Aber oedd yn fuddugol yn erbyn Airbus UK Brychdyn, ac fe fyddan nhw nawr yn wynebu Llanelli yn y rownd gynderfynol.

Bydd y ddau glwb, ynghyd â'r Bala a Phrestatyn, yn cystadlu am yr un lle sy'n weddill y gynrychioli Cymru yng Nghynghrair Europa y tymor nesaf.

Mae Bangor yno'n barod am orffen yn ail yn yr Uwchgynghrair, a Derwyddon Cefn drwy gystadleuaeth Cwpan Cymru.

Cyn chwaraewr Llanelli, Wyn Thomas, sgoriodd y gôl hollbwysig i Aberystwyth.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.