Morgannwg yn cael cweir yn y Pro40

Logo Morgannwg Image copyright Other

Fe gafodd Morgannwg gweir gan Hampshire yn y Gystadleuaeth Pro40 ddydd Llun.

Oherwydd y glaw fe gafodd dechrau'r gêm ei ohirio, ac fe gafodd y gêm hefyd ei chwtogi i 37 pelawd yr un.

Roedd hi'n ymddangos bod Morgannwg wedi gosod targed digon teilwng i'r tîm cartref wedi iddyn nhw sgorio 173 am 7 wiced yn eu batiad nhw.

Stewart Walters oedd y seren gyda batiad disglair o 68.

Ond er llwyddiant y batwyr, roedd methiant y bowlwyr yn ddifrifol.

Roedd y ddau fatiwr agoriadol yn taro'r bêl i'r ffin a dros y ffin yn gyson, ac yn sgorio'n gyflym.

Dychwelodd y glaw i ddod â'r chwarae i ben cyn y diwedd gyda Hampshire yn ennill trwy ddull Duckworth-Lewis.

Cystadleuaeth Pro40 - Sgôr terfynol

Hampshire v. Morgannwg v. Essex - Stadiwm Swalec, Caerdydd:-

Morgannwg - 173 am 7 (37 pelawd)

Hampshire - 151 am 2 (23.5 pelawd) - Hampshire yn fuddugol trwy ddull Duckworth-Lewis

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.