Y Gleision 'nôl ym Mharc yr Arfau
- Cyhoeddwyd

Cyhoeddodd Gleision Caerdydd y bydden nhw'n chwarae eu holl gemau yn ystod tymor 2012-13 a thu hwnt yn ôl ym Mharc yr Arfau.
Fe symudon nhw o'r safle wedi i Stadiwm Dinas Caerdydd gael ei adeiladu yn 2009.
Ond ym mis Chwefror fe ddychwelon nhw i chwarae dwy gêm ym Mharc yr Arfau yn erbyn Ulster a Connacht ac roedd hyn yn boblogaidd gyda chefnogwyr.
Wedi'r gemau hyn, ac ymgynghori pellach gyda chefnogwyr a noddwyr, fe sicrhaodd Prif Weithredwr y Gleision, Richard Holland, gytundeb fyddai'n rhyddau'r clwb o les Stadiwm Dinas Caerdydd.
Dywedodd: "Rydym yn dod â rygbi rhanbarthol yn ôl i galon Caerdydd.
"Gwnaed y penderfyniad i symud i Stadiwm Dinas Caerdydd am y rhesymau cywir ond, wedi i ni wrando ar gefnogwyr a noddwyr ac edrych ar sefyllfa ariannol y busnes, mae'r bwrdd yn teimlo y dylai Gleision Caerdydd fod 'nôl ym Mharc yr Arfau.
"Mae'r penderfyniad yn bwysig i sicrhau bod y dyfodol yn gynaliadwy, yn bwysig i'n cefnogwyr ac yn dda i'r Gleision."
'Cyfleusterau gwell'
Ychwanegodd eu bod yn ddiolchgar i Glwb Pêl-droed Dinas Caerdydd am eu parodrwydd i drafod y les ac y byddai'n dal yn bosib chwarae gemau yn y stadiwm yn Lecwydd petai'r galw am docynnau yn fawr.
"Byddwn yn buddsoddi mewn cyfleusterau gwell ym Mharc yr Arfau dros yr haf ac mae Phil Davies, ein Cyfarwyddwr Rygbi newydd, eisoes wedi cymryd yr awenau," meddai.
Bydd deiliaid tocynnau tymor yn cael y dewis cynta' o ran prynu tocynnau ar gyfer y tymor nesa' ac mae disgwyl iddyn nhw fynd ar werth ddydd Llun, Mai 21, ac ar werth i'r cyhoedd ddydd Llun, Mai 28.
Cadarnhaodd Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd eu bod wedi dod i gytundeb.
Dywedodd llefarydd: "Mae hwn yn benderfyniad fydd yn galluogi'r clwb i symud ymlaen i ddathlu'r stadiwm fel unig gartref y clwb tra hefyd yn helpu Gleision Caerdydd i gynnal eu sefydlogrwydd ariannol.
"Daethpwyd i'r cytundeb gyda chefnogaeth lwyr ein buddsoddwyr o Falaysia. Cafwyd amodau ariannol derbyniol sydd - gyda dyheadau'r clwb pêl-droed yma i gyrraedd yr Uwchgynghrair a'r angen felly i fod yn unig reolwyr y stadiwm - yn ateb da i'r ddwy ochr.
"Mae hefyd yn rhoi'r gallu a'r ysgogiad i ni frandio Stadiwm Dinas Caerdydd yn llwyr, gan ddathlu ein hanes a'n tretadaeth yn gyffredinol fydd, dwi'n siwr, yn dderbyniol iawn i'n cefnogwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd18 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd7 Chwefror 2012