Iola'n synnu at 'dalent anhygoel'
- Cyhoeddwyd

Mae cast o 130 yn ymarfer yn galed cyn digwyddiad cyntaf swyddogol Eisteddfod yr Urdd.
Bydd sioe Sbri! Cwmni'r Frân Wen yn agor yr ŵyl nos Wener, Mehefin 1, yn y Galeri, Caernarfon.
Dywedodd y cyfarwyddwr, Iola Ynyr: "Beth sydd wedi ein synnu ni fel tîm creadigol ydy'r dalent sydd gan y bobl ifanc ac mae wedi bod yn anodd dewis pwy sy'n cymryd y prif rannau.
"Mae'r dalent yn anhygoel.
"Ac mae'n braf gweld pobl ifanc sy' yn yr ysgol ac sy' wedi gadael yr ysgol yn cymysgu â'i gilydd.
"Mae 'na elfen gymdeithasol gref i'r sioe."
'Canu clod'
Daw'r cast o ddalgylch Eryri, Colegau Menai a Meirion Dwyfor.
"Mae rhai yn teithio milltiroedd bob nos Iau i'r ymarferion yn Ysgol Dyffryn Nantlle," meddai "ac felly rhaid canu clod i'w rhieni a'u teuluoedd am eu cefnogaeth."
Dechreuodd yr ymarferion yn Ionawr.
Mae sgript Beth Angell wedi ei seilio'n fras ar y gyfres boblogaidd Glee ac yn adrodd hanes criw o ddisgyblion mewn gwersyll corawl sy'n wrth eu boddau'n canu a dawnsio.
Dywedodd Owain Gethin Davies, y Cyfarwyddwr Cerdd, fod y perfformiad yn cynnwys amrywiaeth o ganeuon poblogaidd mewn arddull gyfoes.
Yn eu plith mae Tŷ ar y Mynydd, Maharishi a'r Brawd Houdini.
Tocynnau £15 ar gael yn Galeri, Caernarfon, 01286 685 222.
Bydd perfformiadau am 8pmnos Wener, Mehefin 1, nos Sadwrn, Mehefin 2, a nos Lun, Mehefin 4.
Bydd perfformiad brynhawn Sadwrn, Mehefin 2 am 3pm.