Llys: 'Sathru i farwolaeth'
- Cyhoeddwyd

Clywodd llys fod dyn, a oedd yn cludo bwyd parod Chineaidd, wedi cael ei bwnio, ei gicio a'i sathru i farwolaeth yn sir Ddinbych.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae Gary Bland a'i nai, James Siree, ill dau o'r Rhyl, yn gwadu llofruddio Gabor Sarkozi oedd yn gweithio i fwyty Happy Garden yn Gallt Melyd ger Prestatyn.
Roedd yr ymosodiad ar Mr Sarkozi, 38 oed ac o dras Hwngaraidd, ar Hydref 18 y llynedd.
Honnodd yr erlyniad fod ei lofruddwyr wedi "cerdded i ffwrdd" ar ôl ei adael i farw.
Dywedodd y bargyfreithiwr, Elwen Evans QC, nad oedd Mr Sarkozi i fod i weithio'r diwrnod hwnnw ond ei fod wedi cael ei alw i mewn gan fod cydweithiwr yn sâl.
Clywodd y rheithgor fod James Siree wedi ffonio ei gariad yn syth wedi'r ymosodiad a dweud: "Dwi'n meddwl mod i newydd lofruddio rhywun."
Yn ôl Ms Evans, roedd natur anafiadau Gabor Sarkozi yn golygu fod ei farwolaeth yn anochel.
Cafodd anafiadau i'w ben a'i wyneb ac er ymdrechion i'w achub, dywedodd Ms Evans ei fod wedi marw yn y fan a'r lle.
Yn ôl Ms Evans, roedd y ddau ddyn wedi "cerdded i ffwrdd yn ddifater" wedi'r ymosodiad ac wedi croesi cae cyn cael eu harestio'n ddiweddarach gan yr heddlu.
Roedd gan y ddau waed ar eu dillad a'u hesgidiau oedd yn eu cysylltu gyda'r ymosodiad, meddai.
Helpu
Wrth gael ei holi, meddai Ms Evans, dywedodd Mr Siree mai dim ond wedi ceisio helpu Mr Sarkozi oherwydd ei anafiadau yr oedden nhw.
Ond gwrthododd wneud sylw pellach, meddai hi, a doedd Mr Bland ddim wedi gwneud unrhyw sylw o'r cychwyn.
Mae'r achos gerbron Mr Ustus Griffith Williams yn parhau ac mae disgwyl iddo bara tair wythnos.