Dim ond un ambiwlans awyr sy'n hedfan yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Dyw dau o'r tri ambiwlans awyr yng Nghymru ddim yn cael hedfan ar hyn o bryd oherwydd pryderon am ddiogelwch.
Yr hofrenyddion dan sylw yw'r rhai yng ngogledd a de Cymru.
Mae hynny'n golygu bod hofrenydd canolbarth Cymru yn gorfod gwasanaethu'r holl wlad.
Daw hyn wedi i gwmni Bond Air Services benderfynu tynnu eu hofrenyddion 22 EC 135 allan o wasanaeth.
Dywedodd Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'r elusen yn rhentu ar brydles hofrenyddion, peilotiaid a pheirianwyr oddi wrth Bond Air Services.
'Crac'
"Ers 2009 mae'r elusen wedi rhentu ar brydles ddau ambiwlans awyr EC135 ac mae eu record ddiogelwch wedi bod yn wych.
"Wrth archwilio EC135 yn rheolaidd yn Ewrop sylwyd ar grac bach yn debyg i un y daethpwyd o hyd iddo mewn EC135 yn Glasgow yn Chwefror."
Penderfynodd Bond, meddai, atal hofrenyddion EC135 rhag hedfan a chynnal archwiliadau trylwyr.
"Mae diogelwch cleifion a'r criw yn hollbwysig," meddai Ambiwlans Awyr Cymru.
"Rydym yn parchu penderfyniad Bond i atal hedfan ac nid oes nam o gwbl yn ein hofrenyddion ni."
Dywedodd fod y trydydd hofrennydd yn wahanol i'r un sy'n destun archwiliad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror 2012
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2011