Geraint Thomas yn dal yn ail
- Cyhoeddwyd

Wedi tri chymal, Geraint Thomas yn ail yn y Giro d'Italia.
Wedi diwrnod o seibiant fe fydd Geraint Thomas o dîm Sky yn cychwyn ar bedwerydd cymal y Giro d'Italia.
Wedi'r tri chymal cyntaf mae Thomas yn yr ail safle naw eiliad y tu ôl i Taylor Phinney o dîm BMC sy'n arwain.
Fe fydd y pedwerydd cymal yn Yr Eidal ddydd Mercher wedi cyfnod yn Nenmarc.
Bydd y cymal yn Verona cyn symud i Modena ddydd Iau.
Mae'r cymal yn Verona yn 32.2 cilometr.
Fe fydd y ras yn dod i ben ym Milan ar Fai 27.
Safle yn y ras yn gyffrediniol
1. Taylor Phinney (UD, BMC Racing) 9 awr 24 munud 31 eiliad
2. Geraint Thomas (Prydain Fawr, Team Sky) + 9 eiliad
3. Alex Rasmussen (Den, Garmin-Barracuda) + 13 eiliad
4. Manuele Boaro (Eidal, Saxo-Bank) + 15 eiliad
5. Ramunas Navardauskas (Lit, Garmin-Barracuda) + 18 eiliad