Hofrenyddion yn ailddechrau

Ambiwlans Awyr Cymru Image copyright Other
Image caption Dim ond un ambiwlans awyr oedd yn weithredol yng Nghymru ddydd Mawrth

Mae nifer o hofrenyddion a gafodd eu hatal rhag teithio ddydd Mawrth wedi cael ailddechrau gwneud hynny bore Mercher.

Roedd dau o ambiwlansys awyr Cymru yn eu plith.

Mae'r cwmni sy'n gyfrifol am yr hofrenyddion yn dweud mai bod yn ofalus oedden nhw ar ôl i nam gael ei ddarganfod yn Yr Alban fis diwethaf.

Ddydd Mawrth, doedd dau o'r tri ambiwlans awyr yng Nghymru ddim yn cael hedfan oherwydd pryderon am ddiogelwch.

Yr hofrenyddion dan sylw oedd y rhai yng ngogledd a de Cymru.

Roedd hynny'n golygu bod hofrenydd canolbarth Cymru yn gorfod gwasanaethu'r holl wlad.

Roedd hyn wedi i gwmni Bond Air Services benderfynu tynnu eu hofrenyddion 22 EC 135 allan o wasanaeth.

Dywedodd Ambiwlans Awyr Cymru: "Mae'r elusen yn rhentu ar brydles hofrenyddion, peilotiaid a pheirianwyr oddi wrth Bond Air Services.

'Crac'

"Ers 2009 mae'r elusen wedi rhentu ar brydles ddau ambiwlans awyr EC135 ac mae eu record ddiogelwch wedi bod yn wych.

"Wrth archwilio EC135 yn rheolaidd yn Ewrop sylwyd ar grac bach yn debyg i un y daethpwyd o hyd iddo mewn EC135 yn Glasgow yn Chwefror."

Penderfynodd Bond, meddai, atal hofrenyddion EC135 rhag hedfan a chynnal archwiliadau trylwyr.

"Mae diogelwch cleifion a'r criw yn hollbwysig," meddai Ambiwlans Awyr Cymru.

"Rydym yn parchu penderfyniad Bond i atal hedfan ac nid oes nam o gwbl yn ein hofrenyddion ni."

Dywedodd fod y trydydd hofrennydd yn wahanol i'r un oedd yn destun archwiliad.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.