BBC Cymru Fyw

Twitter: Arestio pedwar arall

Published
image copyrightOther
image captionCafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio
Mae Heddlu'r Gogledd wedi arestio pedwar dyn yn Sheffield ar ôl i enw menyw gafodd ei threisio gael ei gyhoeddi ar y we.
Cafodd dau eu harestio ar amheuaeth o gyfathrebu maleisus a dau ar amheuaeth o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
Cafodd y pedwar, rhwng 19 a 30 oed, eu holi yn Sheffield cyn cael eu rhyddhau ar fechniaeth.
Cafodd enw'r fenyw ei ryddhau ar ôl i lys gael y pêl-droediwr Chad Evans yn euog o'i threisio mewn gwesty yn Rhuddlan, Sir Ddinbych.
Hyd yn hyn mae 16 wedi eu harestio yn y gogledd a Sir Efrog, a dywedodd Heddlu'r Gogledd y byddai mwy'n cael eu harestio.
Pum mlynedd
Cafodd Ched Evans, oedd yn chwarae i Sheffield United, ei garcharu am bum mlynedd am fod yn euog o dreisio'r fenyw 19 oed.
Y penwythnos ar ôl yr achos cafodd enw'r fenyw ei ryddhau ar wefan Twitter.
Mae gan ddioddefwyr sydd wedi eu treisio neu'n diodde' o ymosodiadau rhywiol yr hawl i fod yn anhysbys am oes.
Mae Evans, sydd hefyd wedi cynrychioli Cymru, yn dweud y bydd yn apelio yn erbyn y dyfarniad.

Straeon perthnasol

  • Arestio tri am sylwadau Twitter yn achos Ched Evans