Carcharu dyn am herwgipio anarferol

  • Cyhoeddwyd
Llys y Goron Yr Wyddgrug
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Lewis ei ddedfrydu yn Llys y Goron Yr Wyddgrug

Cafodd dyn ei garcharu am naw mis mewn achos anarferol o herwgipio plentyn.

Roedd Michael Paul Lewis, 25 o Wersyllt ger Wrecsam, wedi caniatáu i ferch 14 oed aros yn ei gartref - roedd hi wedi rhedeg i ffwrdd o adre.

Roedd Lewis wedi gwadu dau gyhuddiad o herwgipio plentyn, ond fe'i cafwyd yn euog gan reithgor yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fis diwethaf.

Clywodd y llys bod gan Lewis euogfarn blaenorol yn ei erbyn am ymosod ar y ferch.

Dywedodd y Barnwr Niclas Parry bod elfennau pryderus yn yr achos wrth ei garcharu am naw mis, ac fe gyhoeddodd orchymyn sy'n gwahardd Lewis rhag cysylltu gyda'r ferch mewn unrhyw ffordd.

Clywodd y rheithgor bod Lewis wedi cael rhybudd ffurfiol gan yr heddlu ym mis Mai a Mehefin y llynedd i beidio â gadael y ferch i mewn i'w gartref.

'Bregus'

Er nad oedd rhieni'r ferch wedi rhoi caniatâd iddi fod yno, fe gafwyd hyd iddi yng nghartref Lewis ar dri achlysur.

Wrth ei ddedfrydu, dywedodd y Barnwr Parry: "Roeddech chi'n gwybod ei bod yn ferch fregus.

"Trwy ddod i'ch cartref yn barhaus, roedd hynny'n groes i ddymuniadau ei mam ac yn groes i'w lles ei hunan.

"Fe gawsoch bob cyfle, ac fe gafodd ei egluro i chi pa mor bwysig oedd hi i'r ferch beidio â gwneud hyn, ond fe wnaethoch chi barhau gan wybod ei bod yn yfed alcohol ac yn aros ar ei thraed yn hwyr.

"Mae'n bwysig deall weithiau bod rhaid amddiffyn plant rhag eu hunain."

Roedd Lewis wedi gwadu ei fod mewn perthynas gyda'r ferch, ac wedi honni nad oedd yn medru ei hatal rhag mynd i'w gartref.