Heddlu'n apelio wedi ymosodiad

  • Cyhoeddwyd
Car Heddlu

Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad ar ddyn 39 oed yn Abertawe a dorrodd ei benglog.

Dywed yr heddlu nad oedd hi'n ymddangos bod unrhyw reswm am yr ymosodiad.

Roedd y dyn yn cerdded ar Delhi Street am 1:56am fore Llun pan ddaeth dau ddyn y tu ôl iddo - tarodd un o'r ddau y dyn gan achosi iddo ddisgyn ar lawr.

Gwelwyd y ddau ddyn yn rhedeg i ffwrdd ar hyd Delhi Street cyn troi ar hyd Miers Street ac i gyfeiriad Fabian Way.

Doedd yr un o'r ddau yn gwisgo crys.

Cludwyd y dyn i Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd lle cafodd lawdriniaeth ar ei benglog - mae bellach mewn cyflwr difrifol ond sefydlog.

Dywedodd Ditectif Gwnstabl Huw Marshall: "Gellir ond disgrifio'r digwyddiad yma fel ymosodiad diachos ar ddyn oedd ar ei ffordd adre ar ôl noson allan.

"Er bod hyn wedi digwydd yn oriau mân y bore, roedd hi'n Ŵyl y Banc ac mae'n bosib bod nifer o bobl o gwmpas y lle.

"Ni fyddai llawer o ddynion yn ardal Delhi Street heb grys yr adeg hynny o'r bore. Rydym yn apelio ar unrhyw un oedd yn Delhi Street ar adeg yr ymosodiad ac sydd naill ai wedi gweld yr ymosodiad neu sydd â gwybodaeth berthnasol amdanynt i gysylltu gyda ni."

Dylai pobl sydd yn medru cynorthwyo'r heddlu ffonio CID Treforys ar 01792 614350, neu ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.