Marwolaeth ar y cledrau: Apêl newydd am dystion

Richard Llewellyn Lloyd Image copyright Heddlu De Cymru
Image caption Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn trin y farwolaeth fel un anesboniadwy

Mae'r heddlu yn ail-apelio am wybodaeth wrth ymchwilio i farwolaeth dyn y cafwyd hyd i'w gorff ger y cledrau yng ngorsaf Pen-y-bont ar Ogwr.

Cafwyd hyd i gorff Richard Llewellyn Lloyd, 23 oed, o Benarth, Bro Morgannwg gan yrrwr trên oddeutu 40 llath oddi wrth yr orsaf ddydd Sadwrn.

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig yn trin y farwolaeth fel un anesboniadwy.

Dywedodd mam Mr Lloyd, Christine, fod ei mab yn "mwyn, tirion a chwilfrydig" a bod ei farwolaeth wedi gadael "bwlch enfawr".

Mae'r heddlu yn gwylio ffilmiau camerâu cylch cyfyng yr ardal cyn i'r corff gael ei ddarganfod am 8.20am ddydd Sadwrn.

Yn ôl yr heddlu roedd anafiadau Mr Lloyd yn gyson â chael ei daro gan drên.

'Personoliaeth fwyn'

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Cleland, sy'n arwain yr ymchwiliad, eu bod yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd cyn i Mr Lloyd farw a sut iddo ddiweddu ar y cledrau.

"Rydym yn awyddus iawn i olrhain ei symudiadau yn ystod nos Wener a bore Sadwrn," meddai.

"Rydym yn awyddus i glywed gan unrhyw un allai fod wedi gweld rhywun ar y cledrau neu'n agos i'r cledrau fore Sadwrn"

Mewn datganiad, dywedodd Mrs Lloyd: "Roedd Richard yn ddyn ifanc chwilfrydig, oedd yn ystyrlon ac yn awyddus i blesio pobl."

"Roedd ganddo bersonoliaeth fwyn ac roedd yr amgylchedd yn meddwl llawer iddo."

"Rydym yn ceisio dygymod â natur drasig ei farwolaeth ac rydym yn ceisio dygymod â'r bwlch enfawr hwn yn ein bywydau."

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth yn ymchwilio ac yn gofyn i bobl oedd yn yr ardal ar y pryd i gysylltu â nhw ar 0800 405040 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.