Cyhoeddi Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn ar ei newydd-wedd

  • Cyhoeddwyd
Logo Llyfr y FlwyddynFfynhonnell y llun, Llenyddiaeth Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae 'na drefn newydd i'r Wobr eleni

Cyhoeddwyd enwau'r naw cyfrol sydd wedi cyrraedd Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2012.

Cafodd enwau'r naw cyfrol Cymraeg a naw cyfrol Saesneg sydd ar y rhestr eu cyhoeddi yn Theatr Brycheiniog, Aberhonddu nos Iau.

Dyma'r flwyddyn gyntaf i drefn newydd gael ei gweithredu lle mae 'na dri chategori a thair cyfrol ym mhob categori.

Llenyddiaeth Cymru sy'n cynnal y wobr flynyddol.

Y tri chategori yw barddoniaeth, cyfrol ffuglen a chyfrol ffeithiol greadigol.

Y tair cyfrol farddoniaeth Cymraeg yw Siarad Trwy'i Het gan Karen Owen; Waliau'n Canu gan Ifor ap Glyn a Rhwng Gwibdaith a Coldplay gan Gerwyn Williams.

Y tair cyfrol ffuglen yw Neb Ond Ni gan Manon Rhys a enillodd Y Fedal Lenyddiaeth yn 2011; Y Storïwr gan Jon Gower a Pantglas gan Mihangel Morgan.

A'r tair cyfrol ffeithiol greadigol yw Kate: Cofiant Kate Robert 1891-1985 gan Alan Llwyd; John Morris-Jones gan Allan James a Hen Enwau O Arfon, Llŷn ac Eifionydd gan Glenda Carr.

'Gwaith pleserus'

"Gyda'r newid o ran strwythur y cystadlu eleni, mae hon yn flwyddyn bwysig a chyffrous yn hanes cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn," meddai Jason Walford Davies, Cadeirydd y panel beirniadu Cymraeg.

"Roedd gwaith y beirniaid yn bleserus o heriol.

"Wedi'r misoedd o ddarllen, ailddarllen, trafod a thafoli, fe erys naw cyfrol sy'n cymryd eu lle'n hyderus yn eu priod gategorïau.

"Gyda'i gilydd maen nhw'n tystio'n groyw i amrywiaeth iach o leisiau, dulliau, safbwyntiau a gweledigaethau llenyddol.

"Ac fe nodweddir y goreuon yn eu plith gan y gallu i synnu, syfrdanu a herio disgwyliadau."

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru, fod y rhestr eleni yn "adlewyrchu safon y gwaith sy'n cael ei gyhoeddi yng Nghymru heddiw".

'Tair adran'

"Dyma dair adran gref a naw o awduron sy'n haeddu cydnabyddiaeth am eu gwaith.

"Mae'r wobr hon yn rhoi llwyfan a llais i'r rhai sydd yn ysgrifennu yn ddiwyd a thawel trwy'r flwyddyn felly gadewch i ni ddathlu eu llwyddiant ac yn bwysicach oll, ddarllen eu geiriau."

Y cyfrolau ar y Rhestr Fer Saesneg yn y categori Barddoniaeth yw Deep Field gan Philip Gross; Catulla Et Al gan Tiffany Atkinson a Sparrow Tree gan Gwyneth Lewis; yn y categori Ffuglen mae Wild Abandon gan Joe Dunthorne; The Last Hundred Days gan Patrick McGuinness a The Keys of Babylon gan Robert Minhinnick; y cyfrolau yn y categori Ffeithiol Greadigol yw Ghost Milk gan Iain Sinclair; Three Journeys gan Byron Rogers a The Vagabond's Breakfast gan Richard Gwyn.

Fe fydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru nos Iau Gorffennaf 12.

  • Bydd Catrin Beard yn trafod y rhestr fer a'r llyfrau ar raglen Stiwdio BBC radio Cymru, nos Iau, Mai 17 am 6pm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol