Galw am banel i fonitro'r cyfryngau yng Nghymru
- Cyhoeddwyd

Mae angen panel annibynnol i fonitro cyflwr sector cyfryngau Cymru, yn ôl un o bwyllgorau'r Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn galw am banel newydd, annibynnol i archwilio pob agwedd ar sector y cyfryngau yng Nghymru.
Yn ôl adroddiad newydd gan un o bwyllgorau'r cynulliad y gobaith yw y bydd y panel hefyd am roi cyngor ar bolisïau cynaliadwy i ddiogelu ei ddyfodol.
Mae grŵp gorchwyl a gorffen sy'n canolbwyntio ar y rhagolygon ar gyfer dyfodol y cyfryngau, a sefydlwyd gan y pwyllgor, yn argymell y dylid sefydlu fforwm a fyddai'n edrych ar faterion fel datganoli pwerau dros ddarlledu yng Nghymru a datblygu modelau busnes cynaliadwy a fyddai'n cefnogi cyfryngau print lleol.
Mae'r grŵp hefyd yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru gomisiynu adolygiad a fyddai'n mapio sut mae pobl yng Nghymru yn defnyddio'r cyfryngau ac y gallai hyn ei helpu i lywio datblygiadau traws-sector ledled Cymru, gan gynnwys y cyfryngau a thechnolegau newydd.
'Esblygu'
Mae argymhellion eraill yn ymwneud â rhoi rôl i'r Cynulliad wrth fonitro faint o sylw gwleidyddol a roddir gan BBC Cymru, yn enwedig yn sgîl toriadau yn y gyllideb a gyhoeddwyd gan y Gorfforaeth yn ddiweddar ac mae'r grŵp hefyd yn nodi'r angen i fonitro cyllid S4C yn agos.
Dywedodd Ken Skates, cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen, mai'r hyn sydd wedi dod yn amlwg yn ystod eu hymchwiliad yw bod awydd o hyd am gyfryngau a gwybodaeth yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar Gymru.
"Fodd bynnag, mae'r ffordd y mae pobl yn cael y wybodaeth honno yn esblygu'n gyflym," meddai.
"O ganlyniad, rydym yn credu y dylai corff annibynnol, sy'n cynnwys arbenigwyr sydd â phrofiad ar draws y sector, fod yn gyfrifol am fonitro cyfryngau Cymru a rhoi cyngor ac arweiniad ar sut i'w cynnal.
"Mae ystod a chwmpas ein hargymhellion yn eang ac maen nhw'n adlewyrchu manylder y dystiolaeth a'r sylwadau a gasglwyd gennym yn ystod ein hymchwiliad.
"Er nad yw dyfodol y diwydiant cyfryngau yng Nghymru wedi'i fapio'n glir, yr hyn sy'n sicr yw bod angen i sector cyfryngau cynaliadwy nid yn unig oroesi, ond ffynnu a pharhau i ddwyn sefydliadau fel Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru i gyfrif."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd18 Ebrill 2012
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2012