Casnewydd: Canu clodydd Edinburgh

Gary Warren Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption Mae Gary Warren yn sicr bod Justin Edinburgh wedi gwneud gwhaniaeth mawr i'r clwb

Mae capten clwb pêl-droed Casnewydd, Gary Warren, wedi canu clodydd eu rheolwr Justin Edinburgh wrth i'r tîm baratoi ar gyfer rownd derfynol Tlws yr FA yn Wembley.

O dan arweiniad Edinburgh mae Casnewydd wedi cyrraedd Wembley am y tro cyntaf ac wedi cadw'u statws yn Uwchgynghrair Blue Square Bet.

"Ers iddo ddod yma, mae e wedi bod yn chwa o awyr iach," meddai Warren.

"Yn amlwg, mae'n rhywun sydd wedi chwarae ar y lefel uchaf a rhywun y gallwn ni ei edmygu a'i barchu."

Daeth Edinburgh - cyn gefnwr Tottenham Hotspur - yn rheolwr ym mis Hydref y llynedd pan gafodd ei ragflaenydd Anthony Hudson ei ddiswyddo wedi deg gêm heb fuddugoliaeth.

Yn ôl Warren, mae cyfraniad Edinburgh a'i gynorthwyydd Jimmy Dack wedi bod yn allweddol wrth osgoi disgyn o'r uwchgynghrair.

'Ffefrynnau'

Mae Warren yn mynnu mai'r gwrthwynebwyr, Caerefrog, yw'r ffefrynnau yn Wembley er na wnaethon nhw guro Casnewydd yn nwy gêm gynghrair y ddau y tymor hwn.

Bydd Caerefrog hefyd yn ymweld â Wembley yn rownd derfynol y gemau ail gyfle yn erbyn Luton.

Ychwanegodd Warren: "Nhw yw'r ffefrynau fwy na thebyg oherwydd lle y gwnaethon nhw orffen yn y tabl, ond ar y diwrnod fe all unrhyw beth ddigwydd.

"Fe wnaethon ni eu curo nhw adre a chael gêm gyfartal oddi cartre ond fe allwch chi ddiystyru pethau fel yna mewn ffeinal fel hyn.

'Cyfeiriad cywir'

"Rwy'n credu mai'r tîm sy'n delio gyda'r pwysau ac awyrgylch yr achlysur orau fydd yn ennill."

Mae Warren yn credu bod taith i Wembley yn wobr deilwng i'r cefnogwyr wedi cyfnod anodd i'r clwb.

"Mae'r clwb yn mynd i'r cyfeiriad cywir erbyn hyn," meddai.

"Mae'n ddiwrnod anferth i'r clwb a'r cefnogwyr, ac rwy'n gobeithio y gallwn fynd yno, codi'r tlws, a defnyddio hynny fel y dechreuad gorau posib i'r tymor nesaf."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.