Lladd-dy ger Caernarfon yn mynd i ddwylo'r gweinyddwyr
- Cyhoeddwyd
Mae lladd-dy ar stad ddiwydiannol Cibyn ger Caernarfon wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr wedi i'r ddau gwmni sy'n ei redeg fynd i drafferthion ariannol.
Cafodd cwmni SFP eu penodi'n weinyddwyr i Sher Halal Foods ac United Halal Foods wedi i'r ddau fynd i ddyled o bron £650,000.
Sher Halal Foods oedd yn gyfrifol am y lladd-dŷ oedd yn cynhyrchu cynnyrch cig a dofednod ac United Halal Foods oedd yn gyfrifol am gynhyrchu a chadw cig.
Mae'r ddau fusnes - sydd â throsiant o tua £12 miliwn y flwyddyn - yn cyflogi tua 35 o bobl.
Dywedodd y gweinyddwyr bod y 35 o weithwyr wedi cael eu diswyddo gan nad yw'r cwmniau yn masnachu bellach, ond y gallai'r gweithwyr gael eu hail-gyflogi pe bai'r busnes yn cael ei werthu.
Dywedodd Daniel Plant o gwmni SFP: "Er gwaetha'r trosiant uchel iawn, doedd dim modd i Sher Halal Foods a United Halal Foods barhau i fasnachu.
"Rydym wedi dechrau ymgyrch farchnata er mwyn ceisio gwerthu'r busnesau a'u hasedau."