Arestio gyrrwr wedi damwain ar yr A55
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu'n ymchwilio wedi damwain rhwng bws a dau fws mini ar lôn ddwyreiniol yr A55 ger Hen Golwyn.
Roedd y ddamwain am 12.45pm ddydd Iau.
Mae gyrrwr y bws wedi ei arestio ar amheuaeth o yrru'n ddiofal.
Aed â phedwar disgybl i'r ysbyty oherwydd mân anafiadau ac mae pedwar arall wedi mynd yno ar gyfer archwiliad.
Dylai unrhywun ag unrhyw wybodaeth ffonio 101.