BBC Cymru Fyw

Archesgob Cymru ar banel dewis

Published
image captionDywedodd Archesgob Cymru ei bod yn anrhydedd i gael ei ethol
Mae Archesgob Cymru, Dr Barry Morgan, wedi ei ethol i'r comisiwn fydd yn dewis Archesgob newydd Caergaint.
Aelodau'r pwyllgor sefydlog a'i ethodd i wasanaethu ar Gomisiwn Enwebiadau'r Goron a fe yw'r Archesgob cyntaf o'r Gymuned Anglicanaidd i gael gwahoddiad o'r fath.
Un archesgob oedd yn cael ei ethol ac fe bleidleisiodd y pwyllgor drwy'r sustem bleidlais drosglwyddadwy gafodd ei goruchwylio gan gadeirydd y pwyllgor.
Dywedodd Dr Morgan: "Mae'n anrhydedd i gael fy ethol gan y pwyllgor sefydlog ac rwy'n edrych ymlaen at gynrychioli eu buddiannau wrth benodi'r archesgob."
Bydd Archesgob Caergaint yn cael ei ethol wedi i Gymro arall, Dr Rowan Williams, adael y swydd yn gynharach eleni.

Straeon perthnasol

  • Rowan Williams i ymddiswyddo