Symud cemegolion peryglus o hen ffatri yn Sir Gâr
- Cyhoeddwyd

Mae Asiantaeth Amgylchedd Cymru wedi symud cemegolion o safle hen ffatri yn ardal Rhydaman, Sir Gaerfyrddin.
Yn ôl yr asiantaeth, roedd y cemegolion yn hen a pheryglus.
Symudodd swyddogion yr asiantaeth 502 o farilau llawn o'r safle a gwagio pump o byllau oedd yn llawn cemegolion.
Roedd y cemegolion yn cynnwys asid hydroclorig, asid chromig, asid sulphuric a sodiwm hydrocsid.
Ffatri electroplat oedd yn arfer bod ar y safle.
Ailddatblygu
Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru roddodd wybod i'r asiantaeth am bresenoldeb y cemegolion.
Roedd perchnogion presennol y safle ar fin ei ailddatblygu.
Yn ôl yr asiantaeth, yr hen berchnogion oedd wedi gadael y cemegolion ar y safle,
Dywedodd Kimberley Ekin-Wood o'r asiantaeth: "Roedd y safle yn un o risg uchel i'r amgylchedd ac i bobl yn byw yn yr ardal.
"Roedd symud y cemegolion yn flaenoriaeth.
"Rydym am ddiolch i berchnogion y safle am eu cydweithrediad."