Injan stêm Hugh Napier yn ôl ar y cledrau wedi 50 mlynedd o waith adnewyddu
- Cyhoeddwyd
Mae'r dynion olaf oedd yn gyrru injan stêm dros 100 oed yn cael y cyfle i'w gweld eto ar ei newydd wedd.
Fe fydd y tri cyn-chwarelwr yn mynychu gwasanaeth arbennig ar gyfer injan Hugh Napier yng Ngorsaf Rheilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru ym Mhorthmadog ddydd Gwener.
Roedd yr Hugh Napier yn cario gwastraff llechi o Chwarel Y Penrhyn ym Methesda i'r domen tan i'r injan gael ei gadael ar y cledrau yn 1954.
Ers 1966 mae wedi cael ei hadnewyddu.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar yr injan gafodd ei henwi ar ôl pedwerydd Arglwydd Penrhyn.
Dydd Gwener mae Owen Gareth Williams, Thomas Edison Jones ac Emrys Austin Owen yn gweld yr injan ar waith unwaith eto.
Mr Williams, 82 oed, oedd dyn tân yr Hugh Napier yn niwedd y 1940au.
'Pwerus'
Cyn y gwasanaeth dywedodd mai dyna'r profiad gorau posib. "Roedd yn injan brydferth ac mae hi'n dal yn injan bwerus.
"Am flynyddoedd dwi wedi bod yn ymweld ag Amgueddfa Rheilffordd Castell Y Penrhyn i weld y gwaith adnewyddu.
"Dwi wedi bod yn edrych ymlaen at y diwrnod y byddwn yn gweld yr Hugh Napier ar y cledrau unwaith eto.
"Mae'n wych bod yr ymddiriedolaeth wedi dal ati a llwyddo i achub yr injan a sicrhau ei bod hi'n dod yn ôl yn fyw."
Dywedodd David Pickavance o'r amgueddfa fod 'na wahaniaeth rhwng injan amgueddfa ac un sy'n gweithio.
"Mae 'na arogl arbennig, ac mae'n gwneud sŵn. "Mae'n gwbl wahanol.
"Gweld injan stêm yn gweithio, mewn cyflwr da, does 'na ddim byd tebyg."
Yn ddiolchgar
Dywedodd eu bod yn ddiolchgar i Reilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Ucheldir Cymru am helpu gyda'r gwaith adnewyddu a chynnal y digwyddiad ddydd Gwener.
Mae nifer o rannau'r injan wedi eu gwneud gan staff Rheilffordd Ffestiniog.
"Unwaith y daeth gwaith yr injan i ben yn y chwarel cafodd nifer o ddarnau eu tynnu a'u defnyddio ar injans eraill.
"Fe wnaeth Yorath Jones ei hachub a dechrau mynd ati i gasglu darnau coll o wahanol injans eraill.
"Ond bu farw yn fuan ar ôl dechrau'r gwaith yn y 1960au."
Cafodd boiler newydd gwerth £50,000 ei osod.
Dywedodd llefarydd ar ran Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol nad oedd modd rhoi ffigwr ar y gwaith adnewyddu oherwydd mai "llafur cariad" oedd llawer o'r gwaith.
Dros y mis nesaf fe fydd yr Hugh Napier yn teithio o amgylch y DU fel "cennad" i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.