BBC Cymru Fyw

James yn 'hedfan o'r nyth'

Published
image copyrightHuw Evans picture agency
image caption'Dwi angen her newydd er mwyn datblygu fy ngyrfa,' meddai
Bydd prop y Gweilch, Paul James, yn ymuno â chlwb Caerfaddon.
Mae'r chwaraewr 29 oed wedi ennill 34 o gapiau i Gymru ac mae ei gytundeb gyda'r Gweilch yn dod i ben yn yr haf.
Mae wedi chwarae i'r rhanbarth 177 o weithiau.
"Dwi angen her newydd er mwyn datblygu fy ngyrfa," meddai. "Mae Caerfaddon yn glwb uchelgeisiol ac rwy'n edrych ymlaen."
Yn y cyfamser, mae'r bachwr, Huw Bennett, yn symud i Ffrainc tra bod Sonny Parker wedi ymuno â'r Gwyddelod yn Llundain.
Mae Tommy Bowe, Nikki Walker a Tom Smith hefyd wedi cadarnhau y byddan nhw'n gadael.

Straeon perthnasol

  • Mike Phillips i adael y Gweilch