Caerdydd i barhau i chwarae mewn crysau glas

Caerdydd Image copyright Wales News Service
Image caption Bydd y tîm yn parhau i chwarae mewn crysau glas

Mae Caerdydd wedi newid eu meddwl ynglŷn â newid lliwiau crysau'r tîm o las i goch, yn ôl perchnogion y clwb.

Fe wnaeth y bwriad i chwarae mewn crysau coch a siorts du godi gwrychyn cefnogwyr pan ledodd y stori ddydd Llun ac ar ôl cadarnhad prif weithredwr y clwb, Alan Whiteley, ddydd Mawrth.

Mewn llythyr agored i'r cefnogwyr ddydd Iau dywedodd cadeirydd y clwb, Chan Tien Ghee, fod y syniad am grysau coch gyda logo'r ddraig wedi mynd ar led cyn bod y manylion yn derfynol.

Cadarnhaodd eu bod wedi rhoi'r gorau i'r cynllun oherwydd "gwrthwynebiad mawr".

Ond mae'r cadeirydd hefyd wedi rhybuddio na allai'r clwb barhau i wneud colled ariannol.

Colli arian

Ychwanegodd y byddai'n rhaid nawr ail asesu'r strategaeth buddsoddi fyddai wedi sicrhau £100 miliwn gan gynnwys y newid lliw.

Dywedodd mai nod y cynllun oedd ei gwneud yn haws i farchnata'r clwb gan ddangos undod rhwng diwylliant Cymru a diwylliant Asia.

"Doedd dim bwriad i sarhau hanes a thraddodiad y clwb - rydym yn dallt fod y pethau hyn yn hollbwysig i unrhyw glwb."

Ychwanegodd: "Mae'n gwbl glir na allai'r clwb barhau fel ag y mae, yn colli swm mawr o arian bob mis, ac yn mynd i fwy o ddyled.

"Byddwn yn parhau ar hyd y llwybr hwn tan ddiwedd y tymor, ond mae'n amlwg bod yn rhaid wynebu penderfyniadau os rydym am weld y clwb yn goroesi.

"Dyw parhau a phethau fel ag y mae nhw ddim yn opsiwn."

Straeon perthnasol