Ymchwiliad wedi tân mewn hen westy a ddifrodwyd gan dân yn 2008

Hen adeilad gwesty;r Grange yn Y Rhyl wedi digwyddiad 2008
Image caption Cafodd y gwesty ei ddifrodi gan dân yn 2008

Mae ymchwiliad wedi cychwyn ar ôl i dân gael ei gynnau yn fwriadol mewn hen westy gwag yn Y Rhyl.

Cafodd Gwesty'r Grange ei ddifrodi gan dân mewn digwyddiad tebyg bedair blynedd yn ôl.

Bu diffoddwyr tân yn ceisio rheoli'r fflamau am dros awr yn yr adeilad cofrestredig Gradd II ar lan y môr.

Roedd pedair injan dân a pheiriant gydag ysgol wedi eu hanfon i'r digwyddiad toc wedi 5.15am ddydd Gwener.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru bod y tân wedi ei "gynnau yn fwriadol" ac mewn estyniad.

Credir bod rhan o'r prif adeilad wedi ei effeithio hefyd.

Cafodd yr hen westy 29 ystafell ei adeiladu yn y 1900au.

Fe gafodd ei ddifrodi gan dân ym mis Mawrth 2008.

Y llynedd fe wnaeth Cyngor Sir Ddinbych gymeradwyo cais gan ddatblygwyr i ddymchwel rhan o'r adeilad a chodi 20 o fflatiau ar y safle.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.