Plaid Cymru i arwain clymblaid yng Ngheredigion
- Cyhoeddwyd

Am y tro cyntaf mae Plaid Cymru yn arwain Cyngor Ceredigion.
Mewn cyfarfod ddydd Gwener cafodd Ellen ap Gwynn, arweinydd grŵp Plaid Cymru, ei hethol yn arweinydd y cyngor wedi canlyniadau'r etholiad ddydd Iau Mai 3.
Hi yw'r arweinydd cyngor cyntaf o Blaid Cymru yn y sir a bydd yn arwain clymblaid yn cynnwys aelodau Plaid Cymru, yr unig gynghorydd Llafur, Hag Harris, ac aelodau dau grŵp Annibynnol.
Mae 12 cynghorydd yn cynrychioli un grŵp Annibynnol tra bod dau aelod mewn grŵp arall o'r enw Llais Annibynnol.
Daw hyn wedi wythnos o drafod ymhlith cynghorwyr.
'Gweithio'n galed'
Cafodd Mrs ap Gwynn ei hethol gan fwyafrif cynghorwyr, hynny yw 34, gan gynnwys aelodau Annibynnol.
Ymataliodd saith aelod Democratiaid Rhyddfrydol ac un aelod Annibynnol.
Fe fydd y gwaith nawr yn cychwyn ar sefydlu cabinet.
"Dwi'n ddiolchgar iawn am gefnogaeth fy nghyd-aelodau yn y siambr wrth fy ethol yn arweinydd newydd Cyngor Sir Ceredigion - y gwleidydd Plaid Cymru cyntaf i wneud hynny," meddai Mrs ap Gwynn.
"Mae hyn yn golygu cychwyn newydd ar gyfer Ceredigion gyda Phlaid Cymru yn arwain clymblaid newydd.
"Dwi'n bwriadu bod yn arweinydd cynhwysol ac fe fyddwn ni'n gweithio yn galed i sicrhau bod pobl Ceredigion yn teimlo eu bod yn rhan o benderfyniadau'r cyngor."
Dywedodd eu bod yn ymroi i gynnal ymgynghoriad llawn gyda thrigolion lleol am ddatblygiadau newydd gan fod angen ystyried eu barn wrth wneud penderfyniadau.
"Dwi'n hynod falch o fod wedi denu cefnogaeth grŵp o gynghorwyr Annibynnol y cyngor yn ogystal â'r grŵp newydd Llais Annibynnol ac unig gynghorydd Llafur y sir," meddai.
"Fe gafwyd trafodaethau gyda'r holl bleidiau a dwi'n derbyn yn llawn fod gan bawb hawl i wneud eu penderfyniad ond dwi'n bwriadu gweithio ar draws y rhaniadau gwleidyddol er mwyn cael consensws yng nghalon y broses o wneud penderfyniadau yng Ngheredigion."
Roedd canlyniad yr etholiad yn golygu bod Plaid Cymru dair sedd yn brin o fwyafrif.
Cafodd hi 19 o seddi a'r ymgeiswyr Annibynnol 15 o seddi.
Dim enillion
Mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol saith cynghorydd.
Fe gollodd cyn-arweinydd Annibynnol y cyngor, Keith Evans, ei sedd yn yr etholiadau.
Yn wahanol i weddill Cymru, doedd dim enillion i'r Blaid Lafur yng Ngheredigion ond cafodd aelodau Annibynnol dair sedd ychwanegol.
Mae Ms ap Gwynn yn byw yn Nhal-y-bont ac yn gynghorydd Ceulanamaesmawr.
Ei harbenigedd yw rheoli ym maes y celfyddydau ac mae wedi bod yn Rheolwr Cyffredinol Radio Ceredigion.
Nos Iau dywedodd arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wrth raglen Dragon's Eye BBC Cymru, fod angen "syniadau newydd".
Ond, meddai, roedd y blaid wedi torri tir newydd yn yr etholiad yn Abergele yn Sir Conwy, Aberdaugleddau yn Sir Benfro a'r Pentre yn Y Rhondda.
Straeon perthnasol
- 17 Mai 2012