Uned man anafiadau i ailagor yn Ysbyty Cwm Rhondda

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty Cwm RhonddaFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Fe agorodd yr ysbyty yn 2010 ar gost o £36 miliwn

Saith mis ar ôl cau yn sydyn oherwydd prinder staff o fewn y bwrdd iechyd, fe fydd uned mân anafiadau Ysbyty Cwm Rhondda yn ailagor.

Bydd yr uned yn cynnal system blaenoriaethu, lle fydd risg cleifion yn cael ei asesu dros y ffôn cyn gorfod mynd i'r uned ar gyfer apwyntiad penodol os oes angen.

Yn ôl Bwrdd Iechyd Cwm Taf, fe ddylai'r system olygu fod cleifion yn cael eu harwain at y lle cywir.

Fe fydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal fel cynllun peilot am chwe mis.

Caiff pob person a fydd yn ffonio eu hasesu gan glinigwr a'u cyfeirio un ai i'r uned achosion brys ar gyfer achosion difrifol, gael apwyntiad i'r uned man anafiadau neu eu cyfeirio at eu meddyg teulu.

Apwyntiadau

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd bod rhai cleifion yn y gorffennol wedi mynd i'r uned gydag achosion brys a pheryglu eu bywydau, yn hytrach na mynd yn syth i'r adran frys.

Ar y llaw arall, roedd rhai yn defnyddio'r uned yn hytrach na gwneud apwyntiad i weld eu meddyg teulu.

Pan wnaeth yr uned gau fis Hydref y llynedd, dywedodd rheolwyr yr ysbyty eu bod wedi gorfod symud nyrsys oddi yno i Adran Frys Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant oherwydd prinder staff.

Dywedodd llefarydd ar ran y bwrdd iechyd eu bod "wedi cymryd camau i gryfhau cynaliadwyedd gwasanaethau brys o fewn Cwm Taf ac i ddatblygu model newydd ar gyfer gwasanaethau man anafiadau".

Ychwanegodd bod penodiadau sylweddol wedi eu gwneud yn dilyn "proses drwyadl."

"O ganlyniad mae hyn wedi ein galluogi i ailagor yr uned man anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda," meddai.

Mae'r bwrdd yn cynnal ymgyrch wybodaeth yn Y Rhondda i sicrhau bod y cyhoedd yn ymwybodol o'r newidiadau yn ystod y cyfnod peilot gan gynnwys cyflwyniadau, posteri a thaflenni i bob cartref drwy ddisgyblion ysgol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol