Cefnogaeth o Hollywood i Tafwyl gan Matthew Rhys

  • Cyhoeddwyd
Matthew RhysFfynhonnell y llun, Menter Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Matthew Rhys ei fagu yn y brifddinas

Mae un o actorion Hollywood yn cefnogi un o wyliau Cymru sy'n dathlu'r Gymraeg yn y brifddinas.

Am y tro cyntaf eleni mae Tafwyl yn cael ei chynnal fel rhan o Ŵyl Caerdydd.

Mae Matthew Rhys yn ymuno â'r cyflwynwyr Alex Jones, Angharad Mair a Gethin Jones, y seren rygbi Jamie Roberts, DJ Radio 1 Huw Stephens a'r actorion Iwan Rheon a Steffan Rhodri i gefnogi Tafwyl 2012.

Fe fydd ffair fawreddog yn rhad ac am ddim yng Nghastell Caerdydd ar Fehefin 23.

Dyma'r seithfed flwyddyn i Tafwyl gael ei chynnal.

Mae disgwyl dros 8,000 o bobl i fynychu'r ffair, sy'n cynnig gweithgareddau ar gyfer y teulu cyfan, o gerddoriaeth ac adloniant byw i sesiynau coginio gyda'r cogydd Bryn Williams, gweithdai chwaraeon gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru a'r Urdd, drama, llenyddiaeth, celf a chrefft.

Ymhlith yr artistiaid i berfformio ar ddau lwyfan yn ystod y dydd fydd Meic Stevens, Y Niwl a Greta Isaac.

Gweithdai a sgyrsiau

Bydd dawnsio a drymio gyda grŵp South Wales Intercultural Community Arts (SWICA), yn ogystal â sesiynau celf a chrefft gyda Chrefft yn y Bae ac Amgueddfa Genedlaethol Cymru a gweithdai drama a ffilm wedi'u harwain gan Chapter, Sherman Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru.

Ffynhonnell y llun, Menter Caerdydd
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd 'na amrywiaeth o weithgareddau yn y Castell ar Fehefin 23

Fe fydd cannoedd o ddisgyblion ysgolion cynradd Cymraeg Caerdydd hefyd yn camu i'r llwyfan, a bydd atyniadau eraill megis gweithdai sgiliau syrcas gyda NoFit State Circus, stondinau yn gwerthu bwydydd Cymreig a dau far.

Mae 'na sesiynau ar gyfer dysgwyr Cymraeg a bydd S4C yn ffilmio'r digwyddiad ar gyfer ei chyfres Digwyddiadau Haf, gyda BBC Radio Cymru hefyd yn darlledu'n fyw o'r Castell.

"Pan oeddwn i'n tyfu lan yng Nghaerdydd, fy mhrif ddiddordebau oedd perfformio a'r celfyddydau ac mae'n grêt bod Tafwyl yn gweithio gyda Chapter, Sherman Cymru, yr Urdd ac eraill i roi blas o'r gweithgareddau celfyddydol Cymraeg sydd ar gael yn y ddinas ar gyfer bob oedran," meddai Matthew Rhys.

"Dwi hefyd yn falch dros ben fod Tafwyl yn cael ei chynnal eleni fel rhan o Ŵyl Caerdydd.

"Lle gwell na Chastell Caerdydd i gychwyn y dathliad o Gymreictod y ddinas?"

Yn ystod yr wythnos Mehefin 23-29 fe fydd nifer o ddigwyddiadau eraill yn cael eu cynnal ledled y ddinas, o gomedi a cherddoriaeth i hanes a'r celfyddydau, gyda'r nod o hyrwyddo'r Gymraeg yng Nghaerdydd.

"Mae Tafwyl yn mynd o nerth i nerth ac ry'n ni'n edrych ymlaen at gydweithio gyda chriw o bartneriaid newydd i lwyfannu Tafwyl, sy'n dechrau gyda digwyddiad cyffrous a deniadol yng Nghastell Caerdydd," meddai Siân Lewis, Prif Swyddog Menter Caerdydd, trefnwyr Tafwyl.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol