Cocos: Naw wedi eu dal
- Published
Gallai naw wynebu achos llys wedi i swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd eu dal yn casglu cocos yn anghyfreithlon.
Roedd hyn yn ardal Llanrhidian, Penrhyn Gŵyr.
Dywedodd yr heddlu fod y naw yn lleol a bod swyddogion wedi dod o hyd i bedair tunnell o gocos.
"Mae casglu anghyfreithlon yn peryglu bywoliaeth casglwyr trwyddedig ac yn gallu bod yn beryglus i rai sydd ddim yn gyfarwydd â'r llanw" meddai Lyn Richards o'r asiantaeth.
"Roedd cefnogaeth yr heddlu'n allweddol yn ystod yr ymchwiliad."
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Chwefror 2012
- Published
- 3 Tachwedd 2011
- Published
- 26 Hydref 2011