Gweilch 45-10 Munster

  • Cyhoeddwyd
Dan Biggar a Hanno Dirksen yn dangos eu gwerthfawrogiad o gais Kahn Fotuali'iFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Dan Biggar a Hanno Dirksen ar ben eu digon wedi cais Kahn Fotuali'i

Rhoddodd y Gweilch grasfa i Munster yn rownd gynderfynol y Pro12 yn Stadiwm y Liberty nos Wener.

Cafwyd ceisiau gan Dan Biggar, Kahn Fotuali'i, Hanno Dirksen, Andrew Bishop a Rhys Webb, gyda Biggar yn ychwanegu 20 pwynt gyda'i droed.

Sgoriodd Ian Keatley gais, trosiad a chic gosb i Munster oedd yn gweld eisiau'r ddau flaenwr allweddol Paul O'Connell a Damien Varley.

Roedd cais y Gweilch ar ddiwedd yr hanner cynta'n gofiadwy - Richard Fussell yn bylchu'r amddiffyn, yn pasio i Joe Bearman drosglwyddodd yn gyflym i Fotuali'i.

Trosodd Biggar. 23-10 ar yr egwyl.

Mwy na 1,000

Ar ddechrau'r ail hanner ciciodd Biggar gic gosb oedd yn golygu ei fod wedi sgorio mwy na 1,000 o bwyntiau i'w glwb.

Wedyn daeth cais trawiadol arall, tacl Justin Tipuric yn gorfodi Ronan O'Gara i ildio meddiant, Shane Williams, Beck a Fotuali'i'n cyfuno'n grefftus cyn i Fussell basio i Dirksen.

Roedd y Gweilch eisoes wedi curo Munster ddwywaith yn y Pro12 y tymor hwn - 17-13 yn Thomond Park ym mis Hydref ac yna 19-13 yn Stadiwm y Liberty ym mis Rhagfyr.

Byddan nhw nawr yn chwarae Leinster neu Glasgow yn y rownd derfynol ar Fai 26 neu 27.

Gall y Gweilch ymfalchio mewn perfformiad gwych. I Munster mae'r gwaith adeiladu ar gyfer y tymor nesa yn dechrau ar unwaith.

Y timau :-

Gweilch: Richard Fussell; Hanno Dirksen, Andrew Bishop, Ashley Beck, Shane Williams; Dan Biggar, Kahn Fotuali'i; Paul James, Richard Hibbard, Adam Jones, Alun Wyn Jones (capt), Ian Evans, Ryan Jones, Justin Tipuric, Joe Bearman.

Eilyddion: Scott Baldwin, Ryan Bevington, Aaron Jarvis, James King, Tom Smith, Rhys Webb, Matthew Morgan, Tom Isaacs.

Munster: F Jones; J Murphy, K Earls, L Mafi, S Zebo; I Keatley, C Murray; W du Preez, M Sherry, BJ Botha; D O'Callaghan, M O'Driscoll, D Ryan, T O'Donnell, P O'Mahony (capt).

Eilyddion: D Fogarty, D Kilcoyne, S Archer, Dave O'Callaghan, P Butler, T O'Leary, R O'Gara, I Dineen.

Dyfarnwr: Alain Rolland (URI)

Cynorthwywyr: Nigel Owens (URC), Marius Mitrea (FIR)