Gradd arall i Syr Deian Hopkin
- Cyhoeddwyd

Mae'r Athro Syr Deian Hopkin ymhlith cannoedd sy'n derbyn graddau oddi wrth y Brifysgol Agored yng Nghymru ddydd Sadwrn.
Bydd Syr Deian, Llywydd y Llyfrgell Genedlaethol a chyn Is-Ganghellor Prifysgol South Bank Llundain yn Ddoethur Anrhydeddus.
Roedd yn diwtor gyda'r Brifysgol Agored yn y saithdegau.
Mae bron 400 o fyfyrwyr yng Nghymru yn graddio gyda'r brifysgol eleni a chynhelir y seremoni raddio ddydd Sadwrn yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
10%
Mae 10% o'r raddegion o dan 30 oed a saith unigolyn yn eu saithdegau, gan gynnwys Ronald Griffiths, 78 oed o Hwlffordd. Ar gyfartaledd 40 oed yw oedran y graddedigion.
Mae 79% o'r graddedigion wedi cyfuno gweithio gydag astudio.
Mae Robin Bliney, 42 oed o'r Barri, yn graddio yn seicoleg ac astudiodd wrth weithio yn yr Awyrlu fel peiriannydd a datblygodd ei ddiddordeb wrth ddelio gyda thrawma.
"Dechreuais i gyda'r brifysgol oherwydd yr hyblygrwydd a'i henw da. Mae angen ymroddiad a dyfalbarhad i gyrraedd y nod ynghyd â byw bywyd teuluol llawn."
Ei nod yw symud i yrfa newydd fel athro ysgol gynradd.
'Heb fynd i ddyled'
Un arall sy'n graddio yw Louise Martin, 26 oed o Faesteg, oedd wedi cyfnewid credyd ar ôl dechrau ar gampws gyda phrifysgol arall.
"Gyda'r Brifysgol Agored roeddwn i'n dal yn gallu gweithio, fforddio cartref a thalu am gost astudio heb fynd i ddyled", meddai.
Dywedodd Rob Humphreys, Cyfarwyddwr y Brifysgol Agored yng Nghymru, fod y seremoni yn arbennig.
"Mae'r seremoni raddio flynyddol yn uchafbwynt blwyddyn y Brifysgol yng Nghymru.
"Mewn nifer o ffyrdd nid yw'r seremoni yn debyg i unrhyw ddigwyddiad graddio prifysgol arall.
"Mae'r seremoni yn Neuadd Dewi Sant yn achlysur sy'n ysbrydoli.
"Mae myfyrwyr o bob rhan ac o bob cefndir yng Nghymru yn dathlu eu llwyddiant gyda'u teuluoedd, ffrindiau, staff y brifysgol a chyd-fyfyrwyr."
Straeon perthnasol
- 5 Ebrill 2012
- 30 Mawrth 2012