Angladd milwr wedi ei chynnal yng Nghasnewydd

Connor Ray Image copyright Mod
Image caption Cafodd Connor Ray ei anafu'n ddifrifol diwrnod cyn iddo gael ei ben-blwydd yn 21

Mae angladd milwr gafodd ei ladd yn dilyn ffrwydrad yn Afghanistan wedi ei chynnal yng Nghasnewydd.

Cafodd Connor Ray, oedd yn aelod o gatrawd 33 Engineer, ei anafu tra'n chwilio am ffrwydradau ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 21 oed.

Cafodd yr angladd ei chynnal yn Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw yng Nghasnewydd.

Roedd y milwr yn chwilio am ffrwydradau mewn adeilad oedd wedi bod yn nwylo'r gelyn yn ardal Nad Ali yn Helmand pan ffrwydrodd y ddyfais ar Ebrill 11.

Aed ag ef i'r ysbyty yn Camp Bastion ac yna cafodd ei symud i Birmingham, lle bu farw ar Ebrill 18.