Penwythnos mawr i ddau griw o bobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
Only Boys Aloud at Britain's Got TalentFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Only Boys Aloud eu canmol oherwyd canu traddodiadol yn y Gymraeg

Mae nos Sadwrn yn "noson fawr" i ddau griw o bobl ifanc o Gymru sy'n cystadlu yn rownd derfynol y gyfres deledu Britain's Got Talent.

Nod côr Only Boys Aloud o'r cymoedd a grŵp dawnsio Nu Skool o Bort Talbot yw gwobr o £500,000 a chyfle i berfformio o flaen y Frenhines.

Ond y ffefryn, yn ôl llawer, yw Ashleigh a'i chi sy'n dawnsio, Pudsey.

Dywedodd cyfarwyddwr Only Boys Aloud, Tim Rhys Evans: "Dwi mor falch ohonyn nhw ac wrth fy modd bod y bechgyn yn cael y fath gyfle gwych."

Doedd e ddim yn fodlon dweud beth fydd y côr yn canu yn y rownd derfynol ond roedd yn falch fod y beirniaid wedi ymateb yn ffafriol i ddewis Only Boys Aloud o gerddoriaeth draddodiadol yn y Gymraeg.

Perfformiodd y côr yr emyn Calon Lân yn y clyweliad gwreiddiol cyn canu'r emyn Gwahoddiad nos Sul.

Nod Only Boys Aloud nawr yw efelychu Only Men Aloud enillodd gystadleuaeth Last Choir Standing yn 2008.