Damwain: Dyn mewn uned gofal dwys
- Cyhoeddwyd

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw ychydig wedi 8pm
Mae dyn mewn uned gofal dwys wedi i gar daro lloches smygwyr ychydig wedi 8pm nos Wener.
Dywedodd llygaid-dystion fod car wedi gyrru'n ôl a tharo Peter Brown, 59 oed, y tu allan i'r Cross House yn Nhalacharn, Sir Gaerfyrddin.
Mae mewn cyflwr sefydlog.
Dywedodd pobl leol fod rhai wedi codi'r car am fod Mr Brown, sy'n dosbarthu glo, yn sownd oddi tano.
Mae ei fab, Martyn, wedi dweud ei fod yn ddiolchgar i'r criw ddaeth i'r fei.
Aed â Mr Brown, y mae ei belfis wedi ei dorri, a'r fenyw oedd yn gyru'r car i Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.