Neidio o glogwyn: Dyn yn ysbyty
- Cyhoeddwyd

Daeth hofrennydd o ganolfan yr Awyrlu Chivenor yn Nyfnaint.
Aed â dyn oedd yn neidio oddi ar glogwyn mewn hofrennydd i'r ysbyty wedi iddo anafu ei goes.
Dywedodd Gwylwyr y Glannau fod y dyn 32 oed o High Wycombe, Sir Buckingham, wedi taro ei ben-glin ar graig cyn i hyfforddwr ei achub.
Roedd hyn ym Mae Mewslade ym Mhenrhyn Gŵyr.
Hofrennydd o ganolfan yr Awyrlu yn Chivenor, Dyfnaint, aeth â'r dyn i Ysbyty Treforys, Abertawe.
Roedd Gwylwyr y Glannau Rhosili a'r Mwmbwls yn cynorthwyo.