Caerefrog 2 Casnewydd 0
- Cyhoeddwyd

Roedd yn gam hanesyddol i Gasnewydd ond collon nhw 2-0 i Gaerefrog yn rownd derfynol Tlws yr FA yn Wembley.
Caerefrog oedd y ffefrynnau ond Casnewydd oedd y tîm gorau yn yr hanner cyntaf.
Roedd Casnewydd yn chwarae yn Wembley am y tro cynta erioed ond nid oedd yr achlusur mawr yn drech na nhw.
Serch hynny, roedd angen rhywbeth ychwanegol yn yr ail hanner a'r tanc fel petai yn wag.
Collodd blaenwr Casnewydd, Romone Rose, gyfle pan saethodd yn syth at y golwr, Mike Ingham.
Ergyd
Matty Blair darodd yr ergyd gynta i'r Saeson wrth dderbyn pas Ashley Chambers a bwrw'r bêl dros y golwr, Glyn Thompson.
Wedi i Chambers groesi'n grefftus roedd Lanre Oyebanjo wrth y postyn pella â'r ergyd derfynol.
Er gwaetha'r sgôr, roedd Casnewydd yn dal i bwyso a pheniodd Ishmael Yakubu heibio'r golwr, Ingham. Pwniodd y bêl y postyn.
Teithiodd 12,000 o Gymru, y Fyddin Aur a Du, ond maen nhw'n dychwelyd yn waglaw.
Gallai Casnewydd fod wedi gwneud yn well ond, yn sicr, roedd eu perfformiad yn sail ar gyfer y dyfodol.
Casnewydd: Thompson, Warren, Yakubu, Foley, Jarvis, Highes, Pipe, Minshull, Rose, Evans, Porter.
Eilyddion: Swan, Knights, Harris, Rodgers, Buchanan.
Caerefrog: Ingham, Oyebanjo, Meredith, Smith, Parslow, Walker, Chambers, Blair, Challinor, McLaughlin, Gibson.
Eilyddion: Musselwhite, Reed, Potts, Fufield, Moke.
Torf: 19,844.
Dyfarnwr: Anthony Taylor.