Milwr wedi marw

  • Cyhoeddwyd
Gwarchodlu CymreigFfynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r Gwarchodlu Cymreig yn nhalaith Helmand

Dywedodd y Weinyddiaeth Amddiffyn fod aelod o'r Gwarchodlu Cymreig ac aelod o'r Awyrlu wedi eu lladd yn Afghanistan ddydd Sadwrn.

Cafodd y ddau eu saethu'n farw gan aelodau Heddlu Afghanistan yn ardal Lashkar Gah yn nhalaith Helmand.

Mae eu teuluoedd wedi cael gwybod.

Hyd yn hyn mae 414 o aelodau lluoedd arfog Prydain wedi marw yn Afghanistan ers 2001.

Dywedodd llefarydd ar ran Tasglu Helmand, yr Uwchgapten Ian Lawrence: "Mae pawb yn y tasglu yn meddwl am eu teuluoedd a'u ffrindiau ac yn cydymdeimlo â nhw."

Roedd y ddau'n aelodau o dîm ymgynghorol ac yn gyfrifol am ddiogelwch wrth i gyfarfod gael ei gynnal â swyddogion lleol.

Yn wreiddiol, roedd llefarydd ar ran Nato wedi awgrymu bod dau wrthryfelwr wedi eu gwisgo fel heddlu wedi lladd y ddau.

Ond cadarnhaodd llefarydd ar ran yr heddlu bod y ddau wedi bod yn yr heddlu ers blwyddyn.

Cafodd un ei ladd ond dihangodd y llall.