Ailagor gorsaf Abergwaun a Gwdig gaeodd yn 1964

  • Cyhoeddwyd

Mae gorsaf drenau, sydd wedi bod yn segur am fwy na hanner canrif, yn ailagor ddydd Llun.

Caeodd gorsaf Gwdig yn 1964.

Roedd ymgyrchwyr wedi dweud bod gorsaf Abergwaun ger glanfa'r llong fferi'n rhy bell o ganol y dref.

Cafodd £325,000 ei wario ar orsaf Gwdig a gwariodd Llywodraeth Cymru £1.4m ar wella'r gwasanaeth.

Ym Medi cynyddodd nifer y trenau i Abergwaun bob dydd o ddwy i saith.

Dywedodd Hatti Woakes, ysgrifenyddes Fforwm Trafnidiaeth Gogledd Sir Benfro, ei bod hi'n falch iawn.

"Gallai'r stesion fod yn ganolbwynt i gerddwyr, beicwyr a bysus.

"O'r diwedd mae'r holl waith wedi dwyn ffrwyth."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Cafodd hen adeilad pren yr orsaf ei ddymchwel

Dywedodd fod aelodau'r fforwm wedi helpu llunio amserlen newydd.

"Erbyn hyn, mae pobol yn teithio o Gaerfyrddin ... doedd hyn ddim yn digwydd o'r blaen."

Yn ôl perchennog lle gwely a brecwast, meddai, roedd nifer yr ymwelwyr wedi dyblu.

"O'r diwedd mae cysylltiad rhyngom ni a'r byd mawr."

Rhan o'r gwaith oedd dymchwel hen adeilad pren yr orsaf ac ailosod y cledrau.