'Mesurwch werth cynlluniau am ddim'

  • Cyhoeddwyd
PresgripsiwnFfynhonnell y llun, BBC
Disgrifiad o’r llun,
Yr Athro Morgan: Cynlluniau fel presgripsiwn am ddim yn costio hyd at £100m.

Mae arbenigwr busnes wedi dweud bod angen mesur gwerth cynlluniau fel presgripsiwn am ddim a brecwast ysgol am ddim.

Dywedodd yr Athro Brian Morgan o Brifysgol Caerdydd fod cynlluniau Llywodraeth Cymru yn costio hyd at £100m.

Gallai'r arian, meddai, gael ei wario ar drydaneiddio rheilffyrdd.

Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad pwrpas "cynlluniau rhad ac am ddim" oedd hybu'r economi.

"Dylid ystyried beth yw effaith y cynlluniau hyn ar yr economi," meddai'r Athro Morgan.

'Gollwng'

"Os ydyn nhw'n annigonol, dylid eu goillwng a gwario arian ar brosiectau sy'n hybu'r economi ac yn creu swyddi yn y sector preifat."

Dywedodd ei fod o blaid gwario'r arian ar ffordd linaru'r M4 a thrydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd.

"Does dim dewis ... mae angen penderfyniadau anodd ... yn economaidd, mae'n gyfnod anodd.

"Os na wnawn ni'r penderfyniadau byddwn yn dal i fynd i'r cyfeiriad anghywir, o 74% gwerth ychwanegol crynswth y pen i 70%."

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud: "Nod y polisïau hyn oedd mwy o fynediad i ofal iechyd a mwy o annibyniaeth i bobl oedrannus.

'Lleihau pwysau'

"Byddai hyn yn gwella ansawdd bywyd ac yn lleihau pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn y tymor hir.

"Rydym yn canolbwyntio ar greu amgylchiadau lle gall y sector preifat dyfu a chreu swyddi.

"Mae ein Rhaglen Llywodraeth yn anelu at gefnogi pobl fel bod modd iddyn nhw fyw bywyd iach, cynhyrchiol mewn gwlad lle mae llai o dlodi a mwy o gyfartaledd a ffyniant."