Rhybudd nyrsys am ofal cymunedol

  • Cyhoeddwyd
Nyrs yn gafael llaw clafFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Dywed RCN Cymru y gallai cleifion bregus gael eu hanfon adref o'r ysbyty cyn bod y gwasanaeth cymunedol ar eu cyfer mewn lle

Mae arolwg yn dangos bod nyrsys cymunedol yng Nghymru yn treulio llai o amser gyda chleifion ac yn wynebu toriadau sy'n gadael gormod o faich ar wasanaethau.

Cyhoeddwyd astudiaeth y Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN) wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi cynlluniau i ddarparu mwy o ofal y tu allan i ysbytai ac yn y gymuned.

Dywed yr RCN bod cleifion bregus yn wynebu cael eu hanfon adre' o'r ysbyty cyn bod y gofal cymunedol mewn lle.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ystyried yr ymatebion i'r arolwg.

Yn ôl RCN Cymru, mae eu harolwg yn dangos bod gormod o faich ar wasanaethau cymunedol, a bod diffyg buddsoddiad yn bygwth toriadau pellach i'r gwasanaethau.

O'r rhai ymatebodd i'r arolwg, dim ond 6% o nyrsys cymunedol oedd yn dweud bod ganddynt amser i gwrdd â gofynion eu cleifion bob tro, tra bod 89% yn dweud bod eu baich achosion wedi cynyddu dros y flwyddyn ddiwethaf.

Roedd 59% yn dweud eu bod yn treulio llai o amser gyda chleifion nag yr oeddent flwyddyn yn ôl.

'Gwybodaeth gyfarwydd'

Dywedodd cyfarwyddwr RCN Cymru, Tina Donnelly: "Mae gan nyrsys cymunedol wybodaeth gyfarwydd iawn o'u cleifion a'u cymunedau gan eu bod mewn cysylltiad dyddiol gyda phobl yn eu cartrefi.

"Mae'r RCN yn gefnogol iawn i nod y llywodraeth o alluogi pobl i aros adref pan yn briodol. Ond yr unig ffordd o wireddu hyn yw gyda chefnogaeth gweithlu o nyrsys cymunedol sydd wedi eu paratoi yn llawn.

"Wrth i ail-lunio gwasanaethau ddigwydd yn gyflym, mae RCN Cymru am sicrhau bod cleifion yn derbyn gofal gan nifer digonol o nyrsys a gweithwyr cefnogol eraill sydd wedi eu hyfforddi ac yn derbyn cefnogaeth gan eu cyflogwyr."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod ganddynt berthynas agos gyda'r RCN.

"Mae'r ddau gorff wedi ymrwymo i wella gofal y claf, ac i ddarparu gwasanaethau diogel, amserol sy'n gwarchod urddas y claf," meddai.

"Byddwn yn ystyried yr ymatebion i'r arolwg sy'n berthnasol i Gymru cyn ystyried pa gamau i'w cymryd.

"Rhaid i'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru gyflwyno newidiadau sylfaenol er mwyn sicrhau ei fod yn ddiogel ac yn gynaliadwy i gleifion yn y dyfodol, ac fe fyddwn yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r RCN i gyrraedd y nod yma."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol