Apêl yr heddlu am fenyw ar goll

Carrie Lockett Image copyright South Wales Police
Image caption Does neb wedi gweld Carrie Lockett ers Ebrill 24

Mae Heddlu De Cymru wedi gofyn am gymorth i ddod o hyd i fenyw sydd ar goll.

Does neb wedi gweld Carrie Lockett, 31 oed o Ystrad, ers Ebrill 24.

Cafodd ei disgrifio gan yr heddlu fel menyw o gorff main a thua 5'3" o daldra gyda gwallt brown ar ei hysgwyddau ac yn welw ei gwedd.

Pan aeth ar goll roedd yn gwisgo esgidiau rhedeg gyda symbol Nike pinc arnynt.

Maen nhw'n apelio ar Carrie i fynd i'r orsaf heddlu agosaf er mwyn cadarnhau ei bod yn ddiogel, ond mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd wedi ei gweld i ffonio 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555111.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.