Clymblaid i reoli Cyngor Sir Caerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cael ei reoli gan glymblaid rhwng Llafur a grŵp Annibynnol.
Yr un glymblaid sydd wedi rheoli'r sir am gyfnod o wyth mlynedd.
Yn wahanol i'r tro diwethaf, Llafur yw'r grŵp mwyaf gyda 23 o aelodau, o'i gymharu â 21 o aelodau Annibynnol.
Mae Plaid Cymru, y grŵp mwyaf ar y cyngor gyda 28 o aelodau wedi disgrifio'r cytundeb fel "sarhad."
Bydd arweinydd newydd y cyngor yn cael ei ddewis o rengoedd Llafur.
Mae'r blaid wedi enwebu Kevin Madge - ac mae disgwyl i'r cyngor llawn ddewis yr arweinydd newydd ddydd Iau.
Meryl Gravell o'r grŵp Annibynnol oedd arweinydd yr hen gyngor, swydd yr oedd wedi ei dal ers 13 o flynyddoedd.
"Ystyriaeth fanwl"
Dywedodd Mr Madge, arweinydd y grŵp Llafur: "Rwy'n falch ein bod wedi ffurfio clymblaid gyda'r grŵp Annibynnol.
"Byddwn yn parhau gyda'r gwaith da sydd wedi cael ei wneud dros gyfnod o wyth mlynedd - yn gwasanaethu pobl Sir Gaerfyrddin, yn y trefi a'r ardaloedd gwledig."
Dywedodd y cynghorydd Pam Plamer, arweinydd y Grŵp Annibynnol, fod y penderfyniad i ffurfio clymblaid gyda Llafur wedi ei wneud ar ôl "ystyriaeth fanwl" ac er budd trigolion Sir Gaerfyrddin.
Cafodd y penderfyniad ei feirniadu gan arweinydd grŵp Plaid Cymru, Peter Hughes Griffiths.
"Plaid Cymru, gyda 28 o seddi, yw'r grŵp mwyaf ar y cyngor ac, yn unol â'i addewid maniffesto, cynigodd rannu'r weinyddiaeth gyda'r ddau grŵp arall er mwyn sicrhau bod y bobl fwyaf talentog a phrofiadol o bob plaid yn arwain y cyngor.
"Ond trwy uno, a gwrthod rhoi'r un sedd ar y Bwrdd Gweithredol i Blaid Cymru, mae'r Annibynwyr a'r Blaid Lafur wedi dangos dirmyg llwyr tuag y broses ddemocrataidd a thuag at bleidleiswyr Sir Gaerfyrddin,"
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor fod y cytundeb rhwng Llafur a'r grŵp Annibynnol yn gytundeb 12 mis - gydag arolwg yn cael ei gynnal ar ôl blwyddyn.
Straeon perthnasol
- 17 Mai 2012